Mae Cyswllt Ffermio yn darparu hyfforddiant cyfrifiadurol wedi’i ariannu’n llwyr ar gyfer busnesau ffermio a choedwigo cymwys sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio: cliciwch yma.

Mae rheolaeth a threfniadaeth bersonol yn y gweithle yr un mor bwysig â gallu rheoli eraill.
- Sut i fod yn rheolwr effeithiol: cliciwch yma.
- Sut i fod yn fwy trefnus: cliciwch yma.
Cydbwysedd
- Mae’n bwysig bod gan fywyd ar y fferm gydbwysedd.
- Mae datblygu pob agwedd ar agweddau personol a busnes y fferm yn hollbwysig er mwyn arwain dyfodol cadarnhaol a chynhyrchiol.
- Bydd datblygu eich cadernid a’ch llesiant personol eich hun yn helpu i gydbwyso eich bywyd personol a’ch bywyd busnes, bydd deall eich lles meddyliol a sicrhau ei fod yn sefydlog yn helpu cadernid busnes y fferm yn well. Mae rhai enghreifftiau wedi’u nodi isod ac mae gwybodaeth bellach ar gael o dan yr adran ‘Personol’ ar FarmWell Cymru.
Cydbwysedd cymdeithasol
- Mae’n bwysig bod gennych bobl y gallwch siarad gyda hwy ar wahân i faterion sy’n ymwneud â’r fferm, ac mae hyn yn ffordd dda o dynnu sylw er budd eich lles meddyliol.
- Gallai enghraifft o hyn gynnwys pennu digon o amser i sicrhau eich bod yn cael amser o ansawdd gydag aelodau’r teulu, ymuno â chlwb cymdeithasol fel y clwb ffermwyr ifanc lleol neu grwpiau pentref lleol. Fel arall gall fforymau cymdeithasol ar-lein fod yn ffordd dda i sgwrsio gyda phobl debyg, ac mae fforymau a grwpiau o’r fath ar gael ar FarmWell o dan Fforymau Ffermio a Grwpiau Cymdeithasol.
Cydbwysedd lles meddyliol
- Efallai y byddwch yn cael anhawster ar y fferm i ganolbwyntio ar dasgau a rheoli sefyllfaoedd os yw eich lles meddyliol yn ansefydlog.
- Un dull da posibl i ddatblygu eich lles meddyliol yw drwy Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Mae’r ddwy enghraifft uchod yn darparu cipolwg o’r ffyrdd y gallwch ddatblygu eich cadernid personol ac mae gwybodaeth bellach am ddatblygu cadernid personol ar gael o dan yr adran ‘Personol’ ar FarmWell Cymru.