Gall cwnsela helpu gyda phob math o wahanol faterion. Gall helpu gyda digwyddiadau cadarnhaol, gan gynnwys dewis cyfeiriad mewn bywyd neu gyflawni eich potensial llawn. Efallai eich bod yn teimlo ‘ychydig yn sownd yn yr unfan’ ac y byddech yn gwerthfawrogi safbwynt cwnselydd. Mae’n bosibl bod pethau o’ch gorffennol yr hoffech fynd i’r afael â hwy neu efallai bod pethau yn eich bywyd presennol yr hoffech geisio eu newid. Efallai eich bod yn profi digwyddiadau arwyddocaol yn eich bywyd, er enghraifft priodi a dechrau teulu, gadael adref am y tro cyntaf neu ddod i delerau â marwolaeth rhywun annwyl i chi.
Cwnsela oddi wrth Sefydliad DPJ
Mae Sefydliad DPJ yn darparu cymorth rhagweithiol i ffermwyr a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Weithiau mae’n haws siarad â dieithryn nag â pherthnasau neu ffrindiau. Yn ystod therapi siarad, mae cwnselydd neu therapydd hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i’ch atebion eich hun i broblemau, heb eich barnu. Bydd cwnselwyr yn rhoi amser i chi siarad, crio, gweiddi neu feddwl. Mae’n gyfle i edrych ar eich problemau mewn ffordd wahanol gyda rhywun a fydd yn eich parchu chi a’ch barn.
Cefnogaeth Iechyd Meddwl oddi wrth Mind
- I ganfod eich Mind lleol i gael cefnogaeth iechyd meddwl am ddim yn eich ardal chi, ewch i. Cliciwch yma.
- Ffoniwch, e-bostiwch neu anfonwch neges destun at ein Infoline i gael gwybodaeth a chyfeiriad at wasanaethau sy’n gallu helpu.
- Ffoniwch: 0300 123 3393
- Ebost: info@mind.org.uk
- Testun: 86463
- Neu cewch wybodaeth a chefnogaeth o’n gwefan yma: Cliciwch yma.
Meddwl.org
Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.