Ymwybyddiaeth ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu gwybod yn uniongyrchol beth sy’n digwydd y tu mewn a’r tu allan i ni ein hunain, moment wrth foment.

Gall bod yn fwy ymwybodol o’r foment bresennol ein helpu i fwynhau’r byw o’n cwmpas a deall ein hunain yn well.  Pan fyddwch yn dod yn ymwybodol o’r foment bresennol, rydym yn dechrau profi pethau o’r newydd, pethau yr ydym wedi bod yn eu cymryd yn ganiataol.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei argymell gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fel ffordd i atal iselder mewn pobl sydd wedi profi tri phwl neu fwy o iselder yn y gorffennol.

Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Bangor

  • Mae cyrsiau sy’n eich cymhwyso i fod yn athro/athrawes Ymwybyddiaeth ofalgar ar gael ar y wefan yma.

Sefydliad Samye Cymru

  • Mae Sefydliad Samye yn ganolfan hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghaerdydd sy’n cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i leddfu straen a gorbryder, a gwella lles meddyliol.
  • Cynigir yr hyfforddiant ar draws Cymru gyfan.
  • Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach.
Share this page