Mae’n bwysig sicrhau bod eich busnes mewn sefyllfa a all wynebu newid. Yn ystod ein bywydau byddwn yn wynebu pob math o newidiadau, ac mae’n bosibl na fydd gennym unrhyw ddewis ond eu hwynebu. Gall hyn gynnwys newid gwleidyddol yn sgil Brexit neu newid naturiol megis newid yn yr hinsawdd, sy’n creu cyfnodau hwy o lifogydd a sychder.
Bydd datblygu cadernid yn sicrhau bod eich busnes yn barod am effeithiau newid yn yr hinsawdd er mwyn i chi allu symud ymlaen a gweithio drwy’r cyfnodau anodd hyn. Cyn meithrin cadernid mae’n bosibl eich bod wedi bod mewn sefyllfa lle gallai eich busnes, wrth wynebu trychineb naturiol, fod wedi cael anhawster i ymdopi, ac y byddech wedi gweld y newid hwn fel pont na ellir ei chroesi. Yn hytrach, bydd paratoi eich busnes ar gyfer newid yn sicrhau y gallwch ei wynebu yn hyderus.
Mae creu cynlluniau wrth gefn yn sicrhau y gall busnesau ffermio ddychwelyd i normal ar ôl yr amgylchiadau annisgwyl, gydag ychydig iawn o ddifrod ac amhariad.