Mae cadernid personol yn y gymuned ffermio yn broses sy’n cael ei chydnabod yn eang o ymdopi â straen a dod dros sefyllfaoedd anodd. Mae’n bwysig cydnabod ei bod yn normal profi cyfnodau anodd a bod help a chymorth ar gael er mwyn gallu delio â hwy a’u goresgyn.
Mae FarmWell yn ceisio helpu i feithrin cadernid mewn ffordd ragweithiol a darparu arweiniad cyn y bydd ei angen, yn ogystal â bod yn adweithiol wrth gefnogi’r bobl hynny yn ystod sefyllfaoedd o angen annisgwyl. Mae’r adran hon ar gadernid personol yn darparu dolenni cefnogol, cyngor a help er mwyn ceisio cyflawni gwybodaeth emosiynol a chorfforol gryfach, wrth gynnal amgylchedd gwaith iach a diogel.