Mae Cyswllt Ffermio wedi sefydlu cynllun mentora newydd ar gyfer ffermwyr a fydd yn gallu cael arweiniad a chyngor gan eu cyfoedion ar amrywiaeth eang o bynciau. Os ydych chi’n gymwys, gallwch fanteisio ar 15 awr o wasanaethau mentora wedi’u hariannu’n llawn gyda mentor ffermio neu goedwigaeth o’ch dewis.
Daw Mentoriaid Cyswllt Ffermio o bob rhan o Gymru. Gallech naill ai ddewis mentor o’ch ardal leol, neu fentro ymhellach oddi cartref a dewis rhywun o ardal wahanol.
Mae Mentoriaid Cyswllt Ffermio wedi bod yn yr un sefyllfa ac yn medru datblygu perthynas yn seiliedig ar gyd- ymddiriedaeth a pharch. Byddan nhw’n gallu rhannu eu gwybodaeth, profiad, a barn ddiduedd i’ch helpu i ganfod eich nodau a chyflawni eich potensial. Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gwrando, dysgu ac ehangu eich gorwelion a allai eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddelio â sefyllfaoedd newydd ac ymdrin â heriau.
- I gael gwybod mwy am gefndir, sgiliau ac arbenigedd pob mentor, cymrwch olwg ar y ‘cyfeiriadur mentoriaid’ yn llyw.cymru/cyswlltffermiomentora