Dementia

Mae mwy na 200 o is-fathau o ddementia, ond y pum math mwyaf cyffredin yw: clefyd Alzheimer, dementia fasgwlaidd, dementia gyda chorff Lewy, dementia’r llabedi blaen-arleisiol a dementia cymysg.

Mae’r ymennydd yn cynnwys celloedd nerfol sy’n cyfathrebu gyda’i gilydd drwy anfon negeseuon.  Mae dementia yn difrodi’r celloedd nerfol yn yr ymennydd felly nid yw negeseuon yn gallu cael eu hanfon yn ôl ac ymlaen i’r ymennydd yn effeithiol, sy’n atal y corff rhag gweithredu’n normal.

Waeth pa ddiagnosis o ddementia a dderbynnir a pha bynnag ran o’r ymennydd a effeithir, bydd pob person yn profi dementia yn eu ffordd unigryw eu hunain.

Gall dementia effeithio person ar unrhyw oedran ond pobl dros 65 oed sy’n derbyn diagnosis gan amlaf.  Dywedir bod gan berson sy’n datblygu dementia cyn y byddant yn 65 oed ddementia cynnar.

Share this page