Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Mae APHA yn gweithio i ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a’r economi.
- Ffôn: 0300 303 8268
- E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.gov.uk/government/organisations/ animal-and-plant-health-agency.cy
TB Mewn Gwartheg
Yr hyb TB yw’r lle i ffermwyr cig eidion a ffermwyr godro fynd i ddod o hyd i gyngor ymarferol ar ddelio â TB mewn gwartheg ar eu fferm, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am bob dim o fesurau bioddiogelwch i ddeall y rheolau masnachu.
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.tbhub.co.uk
- I gael gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor, cysylltwch â:
- Tîm TB Llywodraeth Cymru: bovinetb@gov.wales
Scab mewn Defaid
Mae Gwaredu Scab yn rhaglen Cymru gyfan i gael gwared ar y clafr. Y prosiect profi a thrin cyntaf o’i fath ledled y wlad, mae gwasanaethau Gwaredu Scab – o ddiagnosis i driniaeth – ar gael yn rhad ac am ddim i ffermwyr. Ariennir Gwaredu Scab gan Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Goleg Sir Gâr.
Home | Animal Health and Welfare Wales (ahww.cymru)