Rydyn ni’n gwybod eich bod weithiau’n gwerthfawrogi’r cyfle i siarad â rhywun, yn hytrach na dim ond darllen gwybodaeth ar wefan.
Cyfeiriadur Cysylltiadau – Cymorth i Ffermwyr yng Nghymru
Mae’r llyfryn Cymorth i Ffermwyr yng Nghymru yn gyfeiriadur o fanylion cyswllt ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Mae’n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer bywyd personol a chadernid busnes. Cliciwch yma i’w weld a’i lwytho i lawr isod. I gael copi caled o’r Cyfeiriadur, anfonwch e-bost i: eleanor@fcn.org.uk
Isod, mae’r prif elusennau amaethyddol sy’n gweithredu yng Nghymru:
Addington Fund: Mae’n darparu cartrefi a chymorth argyfwng i deuluoedd ffermio.
- Ffôn: 01926 620135
- E-bost: enquiries@addingtonfund.org.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.addingtonfund.org.uk
The DPJ Foundation: Llinell gymorth 24/7 ar gyfer y gymuned amaethyddol sy’n dioddef iechyd meddwl gwael. Mae’n darparu gwasanaeth cwnsela wedi’i ariannu’n llawn ledled Cymru
- Ffôn: 0800 5874262
- Testun: 07860048799
- E-bost: kate@thedpjfoundation.co.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.thedpjfoundation.co.uk
The Farming Community Network Cymru: Sefydliad gwirfoddol ac elusen sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr ac sy’n cefnogi ffermwyr a’u teuluoedd yn y gymuned amaethyddol.
- Llinell gymorth: 03000111 999 (7am-11pm)
- Swyddfa genedlaethol: 01788 510866
- E-bost: help@fcn.org.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: fcn.org.uk
Royal Agricultural Benevolent Institution: Arweiniad cyfrinachol, cymorth ariannol ac ymarferol i bobl sydd yn ffermio o bob oedran yng Nghymru. Cymorth dros y ffôn neu ymweliadau cartref ar gael gan swyddogion achos dwyieithog.
- Llinell gymorth: 0800 188 4444
- Ffôn: 01865 724931
- E-bost: help@rabi.org.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:www.rabi.org.uk
Tir Dewi: Mae’n darparu cymorth cyfrinachol am ddim i ffermwyr ar draws Cymru, ac yn eu helpu i oresgyn eu problemau, beth bynnag ydyn nhw, drwy gymorth uniongyrchol a gweithio gyda phartneriaid.
- Ffoniwch y llinell gymorth: 08001214722
- Ffoniwch y swyddfa: 01348 837600
- E-bost: info@tirdewi.co.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.tirdewi.co.uk
Cymorth a Chefnogaeth i’r gymuned amaeth ym Mhowys

Adnoddau FarmWell eraill:
Mae’r dogfennau isod y gallwch eu llwytho i lawr a’u hargraffu yn becyn gwych o adnoddau. Mae croeso i chi eu cadw at eich defnydd personol neu eu rhannu â’r rheini yn y gymuned amaethyddol.
PDFs cadernid personol: