Mae Cymdeithas y Ffermwyr Tenant yn rhoi cyngor pwrpasol, gwybodaeth a chymorth i bob ffermwr nad ydyn nhw’n berchen tir yng Nghymru a Lloegr, cliciwch yma.
Dechrau eich busnes eich hun
- Mae dechrau eich busnes eich hun yn dibynnu ar nifer o ffactorau…sut fath o fusnes rydych chi’n ei ddatblygu, lleoliad y busnes, maint y busnes, gan bwy fyddwch chi angen help (os byddwch chi angen unrhyw help) ac ati.
- Os byddech chi’n hoffi mynd i fyd ffermio ac os ydych chi’n gweld dyfodol mewn datblygu busnes fferm, lle delfrydol i ddechrau arni fyddai cysylltu â’r bobl sydd yn y sector eisoes. Yna fe allwch chi weld ai hwn yw’r sector i chi, ac fe gewch chi ymdeimlad o’r hyn fyddai’n bosibl yn y dyfodol.
- Gall gweithio i/ar y cyd â chwmnïau rheoli fferm roi’r blas o’r gwaith a’r dechrau gorau i chi wrth ystyried dechrau eich busnes eich hun.
- Mae arian yn elfen hollbwysig wrth ddechrau busnes. Mae’n rhaid ichi gael cyfalaf o’r cychwyn un er mwyn buddsoddi yn y busnes: yn y gorffennol gwelwyd hyn o bryd i’w gilydd yn y gymuned ffermio drwy gyfrwng cyllido torfol.
- Efallai byddai ffermio dan gontract neu cael fferm denantiaeth yn fan cychwyn da. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn FarmWell yn yr adran Gwneud Cais am Denantiaeth.
Cyswllt Ffermio:
- Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant ar sut i ddechrau Menter ar y Cyd drwy eu rhaglen Mentro, cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.