Cytundebau rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd
Beth mae’r ddêl newydd yn ei olygu i FASNACHU:
- Ni fydd unrhyw drethi ar nwyddau (tariffau) na chyfyngiadau ar y cyfanswm y gellid ei fasnachu (cwotâu) rhwng y DU a’r UE o 1 Ionawr ymlaen
- Bydd rhai gwiriadau newydd yn cael eu cyflwyno ar ffiniau, megis gwiriadau diogelwch a datganiadau tollau.
- Mae rhai cyfyngiadau newydd ar gynnyrch bwyd anifeiliaid penodol o’r DU.
Beth mae’r ddêl newydd yn ei olygu i BYSGOTA:
- Dros y bum mlynedd a hanner nesaf, bydd y DU yn raddol yn cael rhagor o gyfran o bysgod o’i dyfroedd ei hun.
- Gall y DU ddewis gwahardd cychod pysgota’r UE o 2026, ond byddai gan yr UE hawl wedyn i gyflwyno trethi ar bysgod Prydeinig mewn ymateb.