
Bydd yswiriant fferm yn eich diogelu rhag rhai agweddau penodol o fusnes/peiriannau/da byw fferm. Os ydych yn rhedeg fferm fasnachol neu os oes gennych dda byw, mae’n bwysig bod gennych ryw fath o yswiriant wedi’i drefnu i’ch diogelu chi, eich busnes, eich cyflogeion a’ch asedau. Bydd yn lleihau’r risgiau a allai godi os nad oes gennych gynllun yswiriant pan fydd problem yn codi ar y fferm a allai eich gwneud chi’n atebol yn bersonol.
Os ydych yn rhedeg busnes fferm, rydych yn agored i risgiau sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth, er enghraifft llifogydd, tanau, difrod i eiddo neu dda byw. Bydd trefnu cynllun yswiriant yn lleihau’r effeithiau y gallai’r ffactorau hyn eu cael ar y dulliau o redeg busnes fferm.
Wrth ddewis cwmni yswiriant, gwnewch yn siŵr eu bod yn deall amaethyddiaeth a busnes. Bydd cael dyfynbrisiau gan nifer o asiantaethau yn eich galluogi i gymharu a dewis y cwmni sy’n fwyaf addas ar eich cyfer chi a’ch busnes fferm.