Nid yw ymarfer corff yn golygu bod angen treulio oriau mewn campfa. Gellir ymgorffori ymarferion gwahanol i fywydau prysur ar y fferm heb fod angen offer neu wario llawer o arian.
FarmWell – Ffit i Ffermio
- Gall y brif broblem o geisio cadw’n heini a ffermio godi wrth geisio gwneud amser yn eich diwrnod prysur i wneud ymarfer corff.
- Mae FarmWell wedi datblygu adnodd y gellir ei lawrlwytho ar aros yn ffit ar y fferm, cliciwch yma i’w weld.
- Copi i’w lawrlwytho isod.
FarmWell – Ffit ar gyfer y Cynhaeaf
- Gall y cynhaeaf fod yn un o adegau prysuraf y flwyddyn i ffermwyr âr, ac mae sicrhau eich bod yn ffit yn gorfforol ar gyfer y tymor yn bwysig ar gyfer eich lles corfforol a meddyliol er mwyn goddef y cyfnod prysur hwn. Gall tymor y cynhaeaf olygu dyddiau yn eistedd ar dractor, felly mae deall sut y gallwch gadw’n iach wrth eistedd am gyfnodau hir o amser yn hollbwysig ar gyfer meddwl a chorff iach.
- Mae FarmWell wedi datblygu adnoddau y gellir eu lawrlwytho ar gadw’n ffit ar gyfer y cynhaeaf, cliciwch yma i’w weld.
- Copi i’w lawrlwytho isod.
Parkrun
- Mae Parkrun yn gynllun rhedeg 5 cilomedr a gynhelir bob bore dydd Sadwrn am 9am ar hyd a lled y wlad ac yn rhyngwladol. Gall rhedwyr o bob gallu ac oedran gymryd rhan, p’un a ydych yn rhedwr amhrofiadol neu brofiadol. Mae yna fwy na 6,500 o glybiau parkrun ar draws y DU. Edrychwch ar y wefan i weld lle mae’r un agosaf atoch chi. Dod o hyd i’ch Parkrun agosaf.
Cynlluniau ffitrwydd
- Mae gan Galw Iechyd Cymru dudalen gwe ar Weithgarwch Corfforol, cliciwch yma i ganfod beth yw manteision gweithgarwch corfforol a chanllawiau ar weithgarwch corfforol, yn ôl eich oedran.
- Cliciwch yma i weld dalen dyddiadur gweithgarwch corfforol y gallwch ei phersonoli. Copi i’w lawrlwytho isod.