Mae argaeledd therapïau siarad yn amrywio llawer ac mae’n syniad da canfod beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
Bydd rhai sefydliadau yn gallu gweld pobl yn gymharol gyflym ar gyfer apwyntiad asesu cychwynnol i weld a ydynt yn addas ar gyfer y therapi a gynigir, ac yna eu rhoi ar restr aros bellach (sydd o bosibl yn llawer hirach) ar gyfer triniaeth os byddant yn cael eu derbyn.
Mae gan MIND ddogfen PDF sy’n esbonio therapïau siarad: cliciwch yma i’w gweld. Copi i’w lawrlwytho isod.
Cwnsela preifat
- Gall cost cwnsela neu seicotherapi preifat amrywio llawer iawn. Mae ffi o £40 i £70 y sesiwn yn gyffredin. Mae rhai seicotherapyddion yn cynnig graddfa lithro felly mae’n werth gwneud ymholiadau am hyn. Mae therapi grŵp yn opsiwn arall, a allai fod yn rhatach.