
Dementia yw’r enw cyffredinol am ystod o gyflyrau niwrolegol. I’r rhai sy’n derbyn diagnosis o fath o ddementia, gall fod yn brofiad dychrynllyd a gwanychol iawn. Gall hefyd gael effeithiau sy’n newid bywyd y teulu. Defnyddir yr ymadrodd “byw gyda dementia” yn aml gan yr unigolyn gyda’r cyflwr a’r rhai sy’n aelodau o’r teulu sydd wedi’u heffeithio.
Sut i siarad gyda rhiant am ddementia
Gall fod yn anodd yn aml i gael sgyrsiau am ddementia, yn arbennig ynghylch diagnosis cynnar, ac mae’r canllaw isod yn mynd i’r afael â rhai o’r amseroedd heriol hynny.
- Age UK caring for someone with dementia – Mae’r canllaw y gellir ei lawrlwytho yn berthnasol i bobl yng Nghymru a Lloegr a bydd yn nodi os nad yw’r wybodaeth yn berthnasol, cliciwch yma i’w weld. Copi i’w lawrlwytho isod.
Trin dementia
- Mae dementia yn cael ei achosi gan glefydau cynyddol, ac ni ellir gwella’r un ohonynt ar hyn o bryd. Mae rhai triniaethau ar gael a all helpu rhai pobl gyda symptomau dementia, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hachosi gan glefyd Alzheimer, ond rhai dros dro ydynt ac nid ydynt yn gweithio i bawb.
- Yn anffodus nid oes unrhyw driniaeth ar gael yn awr a all effeithio ar neu atal proses sylfaenol y clefyd yn yr ymennydd.
- Gall triniaeth nad yw’n ffarmacolegol helpu rhai pobl gyda dementia hefyd, gan gynnwys helpu i reoli rhai symptomau a chynnal ansawdd bywyd am gyfnod hwy.