
- Mae Amser i Newid Cymru yn rhaglen genedlaethol sy’n ymgyrchu i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu ar draws cymdeithas.
- Mae’r rhaglen yn gweithio gyda chronfa amrywiol o wirfoddolwyr neu ‘Hyrwyddwyr’ sy’n rhannu eu profiadau drwy sgyrsiau gwrth-stigma mewn gweithleoedd a lleoliadau cymunedol. Mae’r rhaglen yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i ddatblygu cynlluniau gweithredu ystyrlon er mwyn helpu i fynd i’r afael â stigma yn y gweithle a chreu diwylliannau gweithio gwell i’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.
- Mae gan Amser i Newid Cymru bresenoldeb cryf ar-lein ac mae’n cynnal ymgyrchoedd effeithiol er mwyn ysgogi’r cyhoedd yng Nghymru i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl gyda’r rhai o’u cwmpas ac i ddileu’r stigma.
Mae’r rhaglen yn cael ei darparu ar draws Cymru ac mewn partneriaeth â Hafal a Mind Cymru.
Dilynwch dudalennau Amser i Newid Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol: