Ffermio sydd ag un o’r cyfraddau uchaf mwyaf cyson o hunanladdiad ymhlith yr holl alwedigaethau.
Er bod mwy o ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yn y diwydiant, y gwirionedd trist yw bod un ffermwr yr wythnos yn lladd ei hun yn y DU.
Mewn cymdeithas yn ehangach, credir bod pob hunanladdiad yn cael effaith arwyddocaol ar 8 o bobl eraill. Ym myd ffermio, oherwydd natur agos ein ffordd o weithio a’n bywydau cymdeithasol, mae’r effaith yn llawer mwy pellgyrhaeddol, gan lorio cymunedau cyfan.
Wrth godi mwy o ymwybyddiaeth am y pwnc, mae’r ffordd o feddwl ‘ffrwyno teimladau’ sydd wedi’i ymgorffori ym myd ffermio ers cenedlaethau, yn lleihau’n araf ac mae pobl yn dechrau agor allan a thrafod sut maent yn teimlo mewn gwirionedd. Ond mae’r ffaith nad yw nifer y rhai sy’n lladd eu hunain yn lleihau yn dangos bod llawer mwy i’w wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Ym myd ffermio, mae’n hawdd iawn anghofio pa mor bwysig yw’r meddwl. Y meddwl, yn ogystal â’r corff, yw’r darn o offer mwyaf pwysig sydd gan ffermwr. Os nad yw’r meddwl yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, gall y canlyniadau fod yn drychinebus – nid yn unig i’r ffermwr, ond i’r busnes ffermio ac aelwyd y fferm hefyd.
Survivors of bereavement by suicide:
- Gall profedigaeth drwy hunanladdiad fod yn wahanol i fathau eraill o brofedigaeth, gall y broses fod yn hwy ac yn fwy cymhleth yn aml.
- Mae Survivors of bereavement by suicide yn darparu cymorth a gwybodaeth am ymdopi â galar yn dilyn hunanladdiad.
- Llinell gymorth – 0300 111 5065, ar agor o 9am i 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- I ganfod grŵp cymorth yn agos atoch chi, cliciwch yma.