Gwlad

Coedwig Genedlaethol Cymru yn ehangu

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn cymryd cam arall ymlaen wrth i gynllun newydd gael ei lansio a fydd yn galluogi mwy o goetiroedd i fod yn rhan o’r rhwydwaith.

Cyllid Creu Coetir y Gaeaf hwn

Bydd y cyfnod nesaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer creu coetir yn cychwyn ar 24 Gorffennaf ac yn cau ar 15 Medi. Dyma fydd eich cyfle olaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer plannu y gaeaf hwn. Mae’r dyddiadau hyn yn hwyrach na’r rhai a nodwyd yn flaenorol yn sgil cynnydd yng nghyfraddau taliadau i adlewyrchu union gostau creu coetiroedd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir cysylltwch â’r Cysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Grant Creu Coetir neu’r Cynllun Plannu cysylltwch â Thîm Gwirio Cynllun Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru.

RPW Ar-lein: dyddiadau cynnal a chadw hanfodol

Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud i RPW Ar-lein ddydd Mawrth 27 Mehefin ac felly ni fydd ar gael ar y dyddiad hwn.

Cynlluniau Cefnogi Gwledig

Gwybodaeth am yr holl gynlluniau cymorth amaethyddol, gan gynnwys dyddiadau’r cyfnod ymgeisio, gofynion y cynlluniau a meini prawf cymhwysedd.

Awdurdodi brys ar gyfer Asulam (Asulox) – wedi ei wrthod Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi derbyn cyngor Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i wrthod awdurdodiad brys ar gyfer defnydd dros dro a rheoledig Asulam (Asulox) i reoli rhedyn yn 2023. Ni chaniateir defnyddio Asulam (Asulox) yng Nghymru yn 2023. Gallai hyn gael goblygiadau i unrhyw un sy’n ystyried chwistrellu rhedyn eleni, gan gynnwys rhai deiliaid contract Glastir Uwch. 

Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 – Cofrestriadau Cam 2

Cofrestriadau Cam 2 Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau a sefydliadau eraill sy’n defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion (ee chwynladdwyr) ar lefel broffesiynol, neu y mae trydydd parti yn eu defnyddio ar eu rhan, gofrestru. Mae’n rhaid i fusnesau Cymru gyflwyno eu manylion i ni er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid i ddefnyddwyr proffesiynol nad oeddent wedi cofrestru erbyn Mehefin 2022 wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Parth Atal Ffliw Adar – Diweddariad

Yn dilyn yr asesiad diweddaraf o risg dofednod ar gyfer y ffliw adar, mae mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do wedi eu codi ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y gall ceidwaid, os dewisant, ganiatáu i’w hadar fod y tu allan.

Masnachu credydau carbon: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr Gall cwmnïau preifat gysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru sydd am brynu credydau carbon ar gyfer ffermwyr i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dewch i’n gweld ni yn y sioeau yr haf hwn Bydd staff Llywodraeth Cymru gan gynnwys aelodau o dîm y Gwasanaeth Cyswlltwyr  Fferm yn bresennol ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yn ystod Sioe Frenhinol Cymru , a hefyd Sioe Ynys Môn.  Sir Benfro, Dinbych a Fflint, Meirionnydd a Brynbuga yn ystod misoedd yr haf.

FerMôntation – SBRI HyBRID 2.0

Mae Menter Môn, wedi lansio astudiaeth ddichonoldeb mewn partneriaeth â Grŵp Ymgynghori Lafan i asesu hyfywedd technolegau eplesu manwl, a’u potensial o fewn economi Cymru. Wedi’i ariannu drwy SBRI HyBRID 2.0, FerMôntation yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru i edrych ar hydrogen i gynhyrchu protein.

EIP yng Nghymru yn dathlu llwyddiant ymchwil wedi’i arwain gan ffermwyr

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru wedi dathlu chwe blynedd o ariannu prosiectau fferm gyda chynhadledd ddiweddar ger y Drenewydd i nodi penllanw’r rhaglen.

Datblygiadau calonogol ar gyfer y diwydiant gwlân ym Mhrydain

Mae’r bennod hon o Clust i’r Ddaear yn canolbwyntio ar y rhagolygon calonogol i ffermwyr defaid yng Nghymru sy’n chwilio am atebion i fynd i’r afael â’r prîs siomedig am wlan yn ddiweddar.

Ydych chi wedi dod o hyd i fochyn daear marw?

Fel rhan o’n Raglen i Ddileu TB, dyfarnwyd contract i gasglu carcasau “moch daear marw” at ddibenion post portem. Os ydych yn gweld mochyn daear marw, nodwch leoliad y carcas a ffoniwch y llinell benodol ar gyfer moch daear marw ar 0808 169 5110.

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae’r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un: gyda diddordeb mewn datblygu gwledig cadw i fyny efo gwybodaeth ariannu yn y dyfodol

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion

Share this page