
Mae gorbryder ac iselder yn gyflyrau meddygol ar wahân sy’n cyfeirio at les meddyliol rhywun. Gall iselder fod yn gysylltiedig â hwyliau isel a thristwch, gyda’r symptomau yn amrywio o iselder ysgafn i iselder difrifol, cyson. Gall gorbryder hefyd ddigwydd ar wahanol lefelau a gall hyn fod yn gwbl normal yn ystod cyfnodau o ansicrwydd ar wahanol adegau mewn bywyd, fodd bynnag, gall fod yn anodd rheoli hyn weithiau ac yn aml gall fod yn faich parhaus. Mae’r adnoddau yma wedi’u cynllunio er mwyn gwella lles meddyliol.
5 Ffordd at Les
- Mae’r 5 ffordd at les wedi’u cynllunio er mwyn ceisio cael agwedd fwy cadarnhaol at fywyd. Gall y ‘Pum Ffordd’ helpu pobl i adnabod beth sy’n bwysig i’w lles eu hunain a chanfod ffyrdd cadarn o ymgorffori camau gweithredu cadarnhaol yn eu bywydau bob dydd. Mae’r ddolen hon yn eich cysylltu â gwefan GIG Cymru ar wella lles meddyliol: 5 ffordd at les meddyliol.
- Bod yn sylwgar – sylwch ar beth sydd o’ch cwmpas a sut yr ydych yn teimlo – sesiynau ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar
- Bod yn fywiog – sesiynau gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, ymuno â dosbarthiadau/grwpiau ymarfer corff
- Rhoi – annog a chefnogi eraill fel chi.
- Cysylltu – drwy grwpiau cymdeithasol, pobl debyg i chi mewn swydd/sefyllfa debyg i chi, atgyfnerthu perthnasoedd, treulio amser gyda ffrindiau, teulu, gwneud amser i gael sgwrs
- Dal ati i ddysgu – opsiynau ar gyfer gwahanol weithgareddau, pennu nodau, rhoi cynnig ar bethau newydd
- Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am y 5 ffordd at les. Fel arall, os ydych yn weithiwr proffesiynol, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ganllaw ar y 5 ffordd at les, i’ch addysgu sut y gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich gwaith, cliciwch yma i’w gweld. Copi i’w lawrlwytho isod.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am y 5 ffordd at les. Fel arall, os ydych yn weithiwr proffesiynol, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ganllaw ar y 5 ffordd at les, i’ch addysgu sut y gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich gwaith, cliciwch yma i’w gweld. Copi i’w lawrlwytho isod.
Agrii 5 Positive steps to mental wellbeing: Mae’r adnodd hwn i’w lawrlwytho ar gamau i wella lles meddyliol yn ceisio mynd i’r afael a deall arwyddion lles meddyliol gwael, er mwyn gallu mynd i’r afael â hwy ar gam cynnar, a’u rheoli, cliciwch yma i’w weld. Copi i’w lawrlwytho isod.
Cysylltiadau ar gyfer gorbryder ac iselder
Mind Cymru:
- MIND Cymru
- Mae gan yr elusen MInd 20 o ganghennau Mind lleol ar hyd a lled Cymru.
Hafal:
- Hafal – yw’r brif elusen yng Nghymru i’r rhai sy’n dioddef salwch meddwl a’u gofalwyr. Mae gan Hafal 22 o grwpiau lleol ar draws Cymru. Gallwch ganfod eich grŵp lleol chi: yma
- Mae Hafal yn cwmpasu gwasanaethau sy’n cynnwys tai, gwasanaethau gyrfaoedd, gofal cleifion, cefnogi’r rhai mewn argyfwng ac yn y blaen. Cenhadaeth yr elusen yw grymuso’r rhai â salwch meddwl difrifol a’u teuluoedd. Bob dydd maent yn helpu mwy na 1,500 o bobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch meddwl.
- Rhif ffôn cyswllt: 01792 816 600/832 400
CALL (Community Advice and Listening Line)
- Ffôn: 0800 132 737 neu tecstiwch ‘help’ i 81066
- Mae’r llinell gymorth yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n dioddef salwch iechyd meddwl a materion eraill cysylltiedig. Mae’r llinell gymorth ar gael i gynnig cymorth emosiynol yn ogystal â darparu gwybodaeth a llenyddiaeth.
Gwasanaeth testun SANE:
- Mae SANE yn elusen, a sefydlwyd i wella ansawdd bywyd i bobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch meddwl. Mae’r sefydliad yn rhedeg gwasanaeth testun lle gallwch gofrestru i dderbyn negeseuon testun i’ch ffôn symudol, gan helpu gyda chymorth a chysylltiad emosiynol ar yr adegau pan fyddwch ei angen fwyaf. I gofrestru, cliciwch yma.
I gael rhifau cyswllt personol a chyswllt ar unwaith, ewch i Cael Cymorth.