Ffydd ac Ysbrydolrwydd

I rai pobl mae ymdeimlad o ystyr a diben dyfnach i fywyd, y tu hwnt i’r cyflwr dynol, y mae pobl yn ei alw yn ffydd neu’n ysbrydolrwydd.  Gall meddu ar ffyrdd neu ysbrydolrwydd ddarparu sefydlogrwydd a chadernid, gan helpu i ymdopi â straen ac anawsterau.

Mae pobl yn mynegi hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy grefydd drefnus, drwy natur drwy’r gymuned.

Nid yw canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei gredu sy’n ymdeimlad cynhenid, naturiol o ddiben yn eich atal rhag teimlo dan straen, profi anawsterau, neu gael salwch meddwl, ond mae tystiolaeth bod gan bobl sy’n archwilio’r teimladau hyn, neu sy’n perthyn i gymuned ffyrdd neu sydd â chredoau crefyddol neu ysbrydolrwydd iechyd meddwl gwell.

Gall ffydd fod yn bwysig ar adegau o straen emosiynol dwfn, salwch corfforol a meddyliol, profedigaeth ac wrth wynebu ein marwolaeth ein hunain.  Gall ysbrydolrwydd roi ymdeimlad bod bywyd yn daith ac mae’r rhan fwyaf o grefyddau yn gweld salwch fel rhan o brofiad holistaidd bywyd.  Mae uchafbwyntiau ac iselbwyntiau yn rhan o gynnydd bywyd wrth i ni ddysgu i fyw bywyd i’r eithaf.


Mae dogfen gan FarmWell, y gellir ei lawrlwytho, yn mynd i’r afael ag ystyr Ffydd ac Ysbrydolrwydd, sut mae gwahanol bobl yn dehongli ysbrydolrwydd; cydbwysedd ysbrydolrwydd mewn lles a gwerth ffydd ac ysbrydolrwydd, cliciwch yma i’w gweld.  Gellir lawrlwytho’r ddogfen hon ar waelod y dudalen hon o dan ‘Lawrlwythiadau’.


Cysylltiadau defnyddiol:

  • Mae gallu mynegi ac archwilio ysbrydolrwydd yn hawl dynol sylfaenol.  Yn ôl cyfreithiau hawliau dynol, mae gan bob un ohonom yr hawl i ryddid meddwl, cred a chrefydd (Erthygl 9 y Ddeddf Hawliau Dynol).  Mae hyn yn cynnwys:
    • Arfer crefydd a siarad am grefydd.  Peidiwch ag ofni trafod materion ysbrydolrwydd gyda ffrindiau a chydweithwyr dibynadwy, gan gynnwys Cwnselwyr, pan fyddwch yn siarad am eich lles meddyliol.
    • Siarad gydag arweinydd grwpiau ffydd, er enghraifft caplan, gwrw neu imam.
    • Siaradwch gyda’ch meddyg teulu a gofynnwch am bresgripsiwn ar gyfer Well book on spirituality and wellbeing.

Ffynonellau gwybodaeth pellach:


Share this page