
Gall fod yn anodd meithrin cadernid pan fydd rhywun yn profi lefelau uwch o orbryder, straen a salwch iechyd meddwl. Mae meddu ar gadernid emosiynol yn gwella’r gallu i addasu mewn sefyllfaoedd a gellir deall a datblygu hyn yn well drwy’r cymorth a ddarperir isod.
Mae Doug Avery (ar y dde) yn ffermwr o Seland Newydd sydd wedi profi cyfnodau heriol yn y gymuned ffermio, mae wedi datblygu The Resilient Farmer, sy’n dod â ffermwyr ynghyd i feithrin cadernid ar draws y tair prif biler – ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’n esbonio ei stori yn ei lyfr ‘The Resilient Farmer’.
Mae Doug newydd gwblhau taith o amgylch y DU, ac mae ei lyfr ar gael i’w brynu drwy’r ddolen hon, cliciwch yma.
Os ydych chi wedi mynychu’r daith ‘Shift Happens’ gyda Doug mae’r cyflwyniad a’r recordiad sain ar gael isod – cynhyrchwyd mewn cydweithrediad ag AHDB.