Dementia a Ffermio

Mae dementia yn air a ddefnyddir i ddisgrifio set o symptomau.  Gall y symptomau amrywio llawer iawn rhwng y gwahanol fathau o ddementia a gallant gynnwys colli cof, dryswch a hwyliau newidiol.

Mae dementia yn gallu cael ei achosi gan nifer o wahanol glefydau – clefyd Alzheimer yw’r un mwyaf adnabyddus a’r mwyaf cyffredin, sy’n achosi tua dwy ran o dair o achosion.

Ymhlith y clefydau eraill sy’n achosi dementia mae dementia fasgwlaidd, dementia gyda chorff Lewy a dementia’r llabedi blaen-arleisiol.  Yn aml, mae dementia yn cael ei achosi gan glefyd Alzheimer a naill ai dementia fasgwlaidd neu ddementia corff Lewy, a elwir weithiau yn ddementia cymysg.


Dementia Matters Powys

Mae Dementia Matters yn sefydliad elusennol annibynnol sy’n creu sir sy’n deall dementia ym Mhowys.  Maent yn cefnogi’r rhai sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.  Mae rhestr o’r digwyddiadau maent wedi’u trefnu ar gael yma.


Dementia mewn cymunedau gwledig

Lawrlwythiadau:

Share this page