Rhybuddion llifogydd:

- Mapiau perygl o lifogydd hirdymor, cliciwch yma.
- Gwirio rhybuddion llifogydd, cliciwch yma.
- Rhagolwg llifogydd 5 diwrnod, cliciwch yma.
Beth i’w wneud mewn llifogydd:
Mae’n bwysig eich bod yn deall y camau hyn i leihau unrhyw niwed y gallai llifogydd ei achosi ar eich eiddo.
Paratoi:
- Dylech baratoi bag sy’n cynnwys y meddyginiaethau angenrheidiol a’r dogfennau yswiriant y gallai fod eu hangen arnoch os byddwch yn gorfod gadael eich eiddo
- Cadarnhau a yw eich tŷ yn agored i lifogydd
- A oes unrhyw siawns y gallai eich tŷ ddioddef llifogydd neu a oes hanes o lifogydd yn yr eiddo/yr ardal leol, yna dylech sicrhau:
- Eich bod yn ymwybodol o’r llwybrau adleoli a’r canolfannau lleol
- Ystyried gorchudd llawr ar wahân i garpedi – yn arbennig ar gyfer llawr daear y tŷ
- Paratoi cynllun llifogydd y cartref a sicrhau bod pawb sy’n byw yn yr eiddo yn ymwybodol o’r camau ar y cynllun
- Trefnu’r yswiriant cywir
- Gwirio rhybuddion llifogydd
- Cadarnhau gyda’r cyngor lleol a oes cynlluniau llifogydd ar waith ar gyfer eich ardal
Gweithredu:
- Troi’r trydan, y nwy a’r dŵr i ffwrdd
- Symud pethau i le diogel
- Symud y teulu ac anifeiliaid anwes i le diogel
- Symud y car i le diogel os yn bosibl
Goroesi:
- Ffoniwch 999 os bydd perygl i fywyd neu os byddwch yn canfod eich hun mewn perygl uniongyrchol
- Cadwch eich hun a’ch teulu yn ddiogel
- Dilynwch y cynllun sydd gennych ar waith