Atwrneiaeth

Mae Atwrneiaeth Arhosol yn ddogfen gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr sy’n galluogi’r ffermwr i benodi un neu fwy o bobl sydd â’r sgiliau angenrheidiol i gymryd drosodd a gwneud penderfyniadau ar y fferm os na fydd y ffermwr mewn cyflwr i allu gwneud hynny mwyach.

Gall y ffermwr benodi hyd at bedwar Atwrneiaeth Arhosol a all fod yn unrhyw un o’r teulu neu ffrindiau i rywun mewn maes proffesiynol.  Mae’n bwysig bod gennych Atwrneiaeth Arhosol os ydych yn ffermwr oherwydd, pe byddai rhywbeth yn digwydd, mae cynllun ar waith i gymryd drosodd yn eich absenoldeb meddyliol.

Mae dau fath o Atwrneiaeth Arhosol ar waith pan gollir galluedd meddyliol:

  1. Iechyd a lles – gellir gwneud unrhyw benderfyniadau meddygol a gofal iechyd ar eich rhan (credir yn aml mai’r perthynas agosaf sydd â rheolaeth dros sefyllfaoedd meddygol, ond nid yw hyn yn wir).
  2. Materion ariannol – mae hyn yn cwmpasu unrhyw benderfyniadau busnes, materion sy’n gysylltiedig ag incwm, buddsoddiadau, talu biliau, sefyllfa eiddo ac yn y blaen.

  • Fe’ch cynghorir i sicrhau bod y ddwy ddogfen Atwrneiaeth Arhosol wedi’u trefnu.
  • Gallwch gael Atwrneiaeth Arhosol o pan fyddwch yn 18 oed, tra bod gennych reolaeth feddyliol.
  • Mae’r ddogfen hon yn hyblyg a dylid ei newid os bydd yr amgylchiadau neu eich sefyllfa yn newid.
  • Gallwch ganslo eich Atwrneiaeth Arhosol unrhyw amser.

Sut i greu Atwrneiaeth Arhosol?

  • Dewiswch eich atwrnai/atwrneiod
  • Llenwch y ffurflen(ni) (dolenni isod)
  • Cofrestrwch gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Gall y broses gymryd hyd at 10 wythnos

Mae’n rhwydd cael Atwrneiaeth Arhosol, gellir ei lawrlwytho oddi ar wefan y llywodraeth.  Mae’r dogfennau yn costio £82 fesul dogfen, a gallai ffioedd ychwanegol fod yn berthnasol os derbynnir cyngor pellach i lunio’r ddogfen.  Mae canllawiau ar sut i lenwi’r ddogfen ar gael ar-lein, ac ar ôl ei chwblhau mae angen cyflwyno’r ddogfen i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn cofrestru.


Os bydd angen cyngor neu help pellach arnoch, cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

Share this page