Arwyddion nodweddiadol dementia

Mae dementia yn aml yn datblygu yn araf ac nid yw’r arwyddion cynnar bob amser yn amlwg.  Mae symptomau sy’n debyg i rai dementia i’w canfod mewn mathau eraill o salwch.  Weithiau gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng dementia a’r anghofrwydd ysgafn a welir wrth heneiddio’n arferol.

Mae Alzheimer, dementia corff Lewy a dementia’r llabedi blaen-arleisiol oll yn glefydau niwroddirywiol, sy’n golygu bod y symptomau yn gwaethygu dros amser.  Mae hyn fel arfer yn wir gyda dementia fasgwlaidd hefyd.  Mae cyflymder y newid yn amrywio rhwng pobl a hefyd rhwng gwahanol glefydau ond, yn y rhan fwyaf o achosion, mae symptomau dementia yn datblygu’n raddol dros nifer o flynyddoedd.

Wrth i ddementia ddatblygu:

  • Gall pobl ganfod bod eu gallu i gofio, meddwl a gwneud penderfyniadau yn gwaethygu.
  • Mae cyfathrebu ac iaith yn aml yn mynd yn fwy anodd.
  • Gall ymddygiad person newid a gall rhai pobl fynd yn drist neu ddigalonni.
  • Mae gorbryder neu ffobiâu yn gymharol gyffredin.
  • Gallai problemau gyda chanfyddiad amser achosi problemau gyda chysgu ac aflonyddwch yn ystod y nos.
  • Mae dicter neu gynnwrf yn gyffredin yng nghamau diweddarach dementia.
  • Mae’n gyffredin i bobl fod yn ansicr ar eu traed a disgyn yn fwy aml.
  • Yn raddol, gallai fod angen mwy o help ar bobl gyda gweithgareddau dyddiol fel gwisgo, mynd i’r toiled a bwyta.

Gwybodaeth am ddementia yn Gymraeg oddi wrth Alzheimer’s Society

Share this page