Arwahanrwydd ac unigrwydd

Gall ffermio fod yn alwedigaeth ynysig ac unig iawn, gyda llawer o iawn o weithwyr fferm yn gweithio oriau hir ar eu pen eu hunain a gweithio mewn sefyllfaoedd anghysbell, gydag, ac ochr yn ochr â pheiriannau a da byw.  Mae gweithio unigol yn gyffredin iawn, ac er y gall llawer werthfawrogi a ffynnu mewn amgylcheddau gwaith unigol, gall gyflwyno mwy o risg.

Mae pryder yn cynyddu ynglŷn â’r nifer o anafiadau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â damweiniau ar ein ffermydd.  Mae ffermio yn parhau i fod yn un o ddiwydiannau mwyaf peryglus ein gwlad, gan gyfrif am 1.5% o weithwyr ond 15-20% o holl farwolaethau gweithwyr.  Gall hyn gael effaith ddinistriol ar y teulu ffermio a’r busnes ffermio.

Mae cyfraddau hunanladdiad ymhlith ffermwyr yn parhau i fod  ymhlith yr uchaf yn unrhyw grŵp galwedigaethol.  Gall gweithio unigol waethygu teimladau o anobaith pan na fydd pethau’n mynd yn dda, gan gyfrannu at ddechrau iselder.  Yn yr un modd, gall y rhai sydd eisoes yn profi problemau lles wynebu risg uwch o gael damweiniau, yn arbennig pan fyddant yn gweithio ar eu pen eu hunain.  Gall cyflwyno rhai arferion syml ar eich fferm helpu i’ch diogelu chi a’ch gweithlu.

  • Gall unigrwydd effeithio ar unrhyw un, gyda mwy na 9 miliwn o bobl yn y DU yn dweud eu bod yn teimlo’n unig bob amser neu’n aml.
  • Bydd deall sut i ymdopi ag ynysiad ac unigedd yn helpu i drechu’r ofn o gael eich ynysu.
  • Mae cymunedau gwledig yn aml yn cael eu hystyried fel grwpiau cyfeillgar, teuluol, ond nid yw hyn bob amser yn wir.  Yn arbennig wrth i’r cenedlaethau iau symud allan ac mae nifer y digwyddiadau cymunedol yn lleihau, mae’r diffyg ysbryd pentref yn aml yn dwysáu teimladau o unigedd ac yn gwneud i bobl deimlo llai o gysylltiad, yn arbennig y bobl hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sydd wedi’u hynysu.
  • Mae dogfennau canlynol FarmWell, y gellir eu lawrlwytho, yn mynd i’r afael ag achosion unigrwydd, sut i reoli teimladau o unigrwydd, a sut i ymdopi ag ynysiad, cliciwch yma i’w gweld.  Copïau i’w lawrlwytho isod.

Ymgyrch i drechu unigrwydd yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin

  • Gweithio gyda’r rhai sy’n profi teimladau o unigedd ac ynysiad
  • Mae’r ymgyrch eisiau canolbwyntio’n benodol ar weithwyr amaethyddol a sut maent yn profi ynysiad ac unigrwydd
  • Am wybodaeth bellach: wales@campaigntoendloneliness.org.uk
  • Mae prif wefan yr ymgyrch i drechu unigrwydd a gwybodaeth bellach ar y pynciau o ynysiad ac unigedd ar gael yma.

Cefnogi ffermwyr ynysig

  • PDF gan y sefydliad iechyd meddwl ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Cefnogi cymunedau ffermio mewn cyfnodau o ansicrwydd’ yng Nghymru.  Cliciwch yma i’w weld.  Copi i’w lawrlwytho isod.

Lawrlwythiadau:

Share this page