Amser i Gynllunio

Ymunwch â ni i Baratoi ar gyfer y Cyfleoedd a’r Heriau sydd o’n blaenau

Mae’r diwydiant ffermio wedi dangos ei gadernid drwy heriau yn y gorffennol. Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd ac mae’r ymdeimlad o gymuned yn amlwg iawn yn y diwydiant ffermio.

Rydyn ni’n camu i mewn i gyfnod o newid ac ailstrwythuro unwaith eto. Bydd y cyfnod yn dod â chyfleoedd newydd i lawer o bobl. Ar gyfer eraill, mae’n bosib y bydd y cyfnod yn dod â phryder a straen.

Sut bynnag y byddwch yn teimlo yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd FarmWell a’r FCN yma i chi.

Nod ein menter ‘Amser i Gynllunio’ yw cefnogi ac annog pobl trwy gyfnod o newid. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn ein diwydiant i wneud y canlynol:

  • Eich cysylltu â’r adnoddau gwybodaeth mwyaf perthnasol er mwyn eich helpu chi i wneud y penderfyniadau gorau
  • Rhoi awgrymiadau a gwybodaeth i ddatblygu cadernid busnes a chadernid personol.
  • Eich helpu chi i ganfod llwybr llwyddiannus ar gyfer dyfodol busnes eich fferm.
  • Eich helpu chi i gynllunio ar gyfer olyniaeth ac ymddeoliad
  • Eich helpu chi i ofalu am eich llesiant chi, eich teulu a’ch staff
  • Rhoi gwybodaeth am weithio’n ddiogel ac yn rhagweithiol
  • Eich cysylltu â chymorth os oes ei angen arnoch

Bydd Amser i Gynllunio’n datblygu dros y misoedd nesaf – p’un a ydych yn edrych ar y dyfodol gyda chyffro neu bryder, ymunwch â ni ac eraill i wynebu’r hyn sydd i ddod yn hyderus. Mae’n gyfrinachol ac am ddim.

Share this page