Ymunwch â ni i Baratoi ar gyfer y Cyfleoedd a’r Heriau sy’n ein Hwynebu
Mae’r diwydiant ffermio wedi dangos ei gydnerthedd drwy heriau’r gorffennol. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd ac mae’r ymdeimlad o gymuned yn gryf iawn mewn ffermio.
Unwaith eto, rydym yn wynebu cyfnod o newid ac ad-drefnu. I lawer bydd hyn yn gyfle. I eraill, bydd yn achos pryder a straen.
Sut bynnag yr edrychwch ar y blynyddoedd nesaf, bydd FarmWell a FCN yma i’ch helpu.
Mae ein menter ‘Amser i Gynllunio’ yma i helpu ac annog pobl drwy newid. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio â’n partneriaid yn y diwydiant i:
- Eich rhoi mewn cysylltiad â’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf perthnasol i’ch helpu i wneud y penderfyniadau gorau
- Cynnig awgrymiadau a syniadau ar ddatblygu cydnerthedd personol a busnes
- Eich helpu i ddewis y trywydd gorau ar gyfer dyfodol eich busnes ffermio
- Eich helpu i gynllunio ar gyfer olyniaeth ac ymddeoliad
- Eich helpu i edrych ar ôl eich lleisiant eich hun, a’ch teulu a staff
- Darparu gwybodaeth am weithio’n ddiogel a chynhyrchiol
- Eich rhoi mewn cysylltiad â help a chefnogaeth os bydd angen
Bydd Amser i Gynllunio yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf – os ydych chi’n llawn cyffro neu’n llawn pryderon wrth feddwl am y dyfodol, ymunwch â ni ac eraill i wynebu’r hyn sydd o’n blaenau’n fwy hyderus. Mae am ddim ac yn gyfrinachol.
Hydref – Rheoli Newid
Drwy gydol mis Hydref byddwn yn rhoi sylw i bwnc ‘Rheoli Newid’. Gall cynllunio ar gyfer y dyfodol fod yn broses ddigon brawychus, yn enwedig ym myd ffermio lle’r rydym eisoes yn profi cymaint o newid. Cliciwch yma i fynd i’n tudalen ar Reoli Newid.