Os ydych wedi cynllunio ymweliad ysgol, mae gan AHDB adnoddau amrywiol y gallant eu hanfon atoch, llenwch y ffurflen i gael mynediad atynt, cliciwch yma.
Farmer Time
Mae Farmer Time yn alwad Skype neu FaceTime 10 munud, bob pythefnos, rhwng y fferm a’r ystafell ddosbarth. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr holi cwestiynau, a gweld beth sy’n digwydd yr ochr arall i giât y fferm, ac atgyfnerthu dysgu cwricwlaidd gydag enghreifftiau o fywyd go iawn yng nghefn gwlad y DU. Mae’r fenter Farmer Time yn annog dysgu yn yr ystafell ddosbarth, galluogi plant i weld o ble y daw eu bwyd, hybu bwyta’n iach, ac ysbrydoli gweithlu cynhyrchu bwyd y dyfodol. I gael gwybodaeth bellach cliciwch yma.
Modiwlau hyfforddi Rural +
Mae The Farming Community Network (FCN), National Federation of Young Farmers’ Clubs (NFYFC) a The DPJ Foundation yn cydweithio i gefnogi iechyd a llesiant ffermwyr ifanc drwy ddatblygu’r modiwlau hyfforddi Rural+newydd.
Mae’r modiwlau wedi cael eu hanelu at aelodau 10-26 oed YFC a myfyrwyr amaethyddol 16-25 oed sydd heb gael eu lleoliad neu eu rôl gyntaf yn y diwydiant eto.
Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddeall straen a gorbryder; rheoli llesiant meddyliol personol; sut mae siarad am iechyd meddwl; gofyn am gymorth a chefnogi eraill.