Diweddariadau Gwlad

Amaethyddiaeth: Diweddariad Haf 2024 Llywodraeth Cymru

Yr Ysgrifennydd Materion Gwledig sy’n cadeirio Bord Gron gyntaf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies oedd cadeirydd cyfarfod cyntaf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Ysgrifennydd y Cabinet ‘allan yn y maes’ i ddysgu am reoli tir yn gynaliadwy

Mae’r Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies wedi bod ‘allan yn y maes’ yn dysgu am raglen flaengar Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y dystiolaeth sy’n cefnogi polisïau cynhyrchu bwyd cynaliadwy, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Adborth y diwydiant ffermio yn siapio newidiadau newydd i brofion TB

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i brofion TB yng Nghymru ar ol iddo gyfarfod a gwrando ar ffermwyr ar draws Cymru.

Dolur rhydd feirysol buchol (BVD)

Gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2024, bydd y ddeddfwriaeth newydd ar BVD sydd o dan arweiniad y diwydiant ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob ceidwad gwartheg:

  • brofi eu buchesi yn flynyddol am BVD,
  • ynysu pob anifail sydd wedi ei heintio’n barhaus (PI) oddi wrth weddill y fuches am ei oes gyfan.

Rhaid i geidwaid gwblhau eu prawf buches blynyddol cyntaf erbyn 1 Gorffennaf 2025, neu bydd buchesi nad ydynt wedi cwblhau’r prawf sgrinio yn cael eu rhoi o dan gyfyngiadau symud hyd nes y byddant yn cael canlyniad negyddol.

Dyfodol Ffermio yng Nghymru: Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Datganiad am y blaenoriaethau ar gyfer amaethyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys tabl amser gwahanol ar gyfer gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn seiliedig ar adborth o’r ymgynghoriad a chwrdd â ffermwyr ers dechrau ar y swydd

Cymorth buddsoddi mewn seilwaith fferm 2024 – Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau a Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau

Mae £20m wedi’i ymrwymo i gyfrannu at welliannau mewn ansawdd dŵr ac aer a chefnogi ffermwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae ffenestr Cynllun Buddsoddi Rheoli Maetholion EOI wedi agor ar 15 Gorffennaf 2024.

Gofyniad gorfodol i osod CCTV ym mhob lladd-dy yng Nghymru wedi’i gymeradwyo

Mae rheoliadau newydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Senedd gan ei gwneud yn orfodol gosod CCTV ym mhob lladd-dy yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad Grŵp Cynghori Technegol TB Buchol o Bolisi Presennol Lladd Anifeiliaid sydd wedi Adweithio i’r Prawf TB ar y Fferm

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi derbyn argymhellion y Grŵp yn llawn.

Cofrestriad Gorfodol Dofednod ac Adar Caeth Eraill

O’r 1 Hydref 2024 bydd yn ofyniad cyfreithiol i geidwaid adar yng Nghymru a Lloegr gofrestru ar gyfer rhif Daliad Plwyf Sirol (CPH) a chofrestru fel ceidwad adar/dofednod ar Gofrestr Dofednod Prydain. Mae hyn heblaw am adar sy’n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes ac sy’n byw dan do yn unig heb fynediad i’r tu allan.

Nodi risg feirws y Tafod Glas ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod

Yn dilyn yr achosion o’r tafod glas yn Lloegr y llynedd, mae’r asesiad risg diweddaraf o feirws y tafod glas a gyrhaeddodd Brydain Fawr yn ystod 2024 wedi ei gyhoeddi gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Yn yr asesiad risg ansoddol hwn sydd wedi’i ddiweddaru, mae APHA yn cadarnhau bod tebygolrwydd uchel iawn y bydd achosion newydd o feirws y tafod glas seroteip 3 (BTV-3) yn effeithio ar dda byw ym Mhrydain Fawr wrth i wybed heintiedig gael eu chwythu drosodd o ogledd Ewrop.  

Amddiffynnwch eich buches yn erbyn dolur rhydd feirysol buchol (BVD)

Er mwyn paratoi ar gyfer deddfwriaeth BVD sy’n dod i rym yr haf hwn, argymhellir eich bod yn sgrinio eich buches ac yn ymgynghori â’ch milfeddyg er mwyn sicrhau eich bod yn cadw BVD allan o’r fuches. Os byddwch yn darganfod anifail sy’n cael prawf antigenau positif, argymhellir eich bod yn ei waredu o’ch diadell cyn gynted â phosibl. Mae manteision bod yn rhydd o BVD yn cynnwys gwell cynhyrchiant, gwell ffrwythlondeb ac ôl troed carbon is. Mae cynnal statws rhydd o BVD yn gwella iechyd y ddiadell drwy leihau’r defnydd o wrthfiotigau a hyrwyddo iechyd gwell o ran lloi.

Digwyddiad Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithio ym maes Coedwigaeth

Ymunwch â Forest Research, Cyfoeth Naturiol Cymru, Confor, Woodknowledge Wales a Llywodraeth Cymru, 13 Mehefin 2024, 09:30 – 16:15, Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, LL57 2TR (ac ar-lein).

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro

Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y gwanwyn yn cyflwyno system fwydo newydd ar gyfer lloi newydd-anedig, a chredir mai dyma’r arbrawf cyntaf o’i fath mewn buches ar raddfa fawr.

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’

Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn helpu’r fam, Dianna Spary a’i mab Iestyn, i wella eu menter ffermio da byw yn barhaus ac adeiladu busnes sy’n ariannol gynaliadwy a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.

Pan ddaw’r archwilydd

Archwiliadau cynlluniau fferm: canllaw i ffermwyr – argraffiad 2024. Cyngor i’ch helpu chi i ddilyn y gyfraith a pharatoi ar gyfer archwiliadau trawsgydymffurfio a Glastir.

Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 yn disodli Gorchymyn 2023 sy’n golygu o 1 Ebrill 2024 ymlaen:

  • bydd cyfraddau isafswm cyflog uwch ar gyfer pob gradd o weithiwr. 
  • bydd yr holl lwfansau (gan gynnwys lwfansau cŵn) yn cael eu cynyddu 8.5%.

bellach mae’r gyfradd goramser 1.5 gwaith yn fwy na chyfradd wirioneddol y gweithiwr amaethyddol fesul awr, yn hytrach na chyfradd fesul awr yr isafswm cyflog amaethyddol.

Datganiad Ysgrifenedig: Aelodaeth y Grŵp Cynghori Technegol ar TB Buchol

Cafodd y Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar TB Buchol ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher 17 Ebrill 2024.

Dolur rhydd firaol buchol

Mae BVD yn glefyd feirysol sy’n effeithio ar wartheg, a all arwain at erthyliad, anffrwythlondeb, lloi â nam, a iechyd buches dan fygythiad, yn enwedig ymhlith stoc ifanc. Mae buchesi sydd wedi’u heintio â BVD yn aml yn profi mwy o achosion o niwmonia lloi. O ystyried yr effaith economaidd bosibl, argymhellir perchnogion gwartheg i brofi eu buchesi ar gyfer BVD yn flynyddol. Mae profion yn gwella iechyd a phroffidioldeb buchesi trwy ganiatáu adnabod anifeiliaid heintiedig yn gyflym, rheoli clefydau a masnachu gwartheg gyda mwy o wybodaeth ac yn fwy diogel.

Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi’u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol

Mae angen dewrder a gweledigaeth i ail-forgeisio’r cartref teuluol i brynu tir i dyfu llysiau a blodau organig ar raddfa fasnachol, ond gwnaeth Emma Maxwell a Dave Ashley y penderfyniad beiddgar hwnnw a, thrwy fanteisio ar gymorth Cyswllt Ffermio ar hyd y ffordd, mae eu busnes garddwriaeth yn datblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Diweddariad Gwanwyn oddi wrth Llywodraeth Cymru

Dyddiadau pwysig 2024, grantiau, a mwy.

Cymorth Digidol SAF

Mae Swyddfeydd Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar agor i’r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig. Os oes angen rhagor o help arnoch, yn enwedig i lenwi’r SAF am y tro cyntaf, gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid eich helpu dros y ffôn. Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu ‘Cymorth Digidol’ i chi mewn swyddfa ranbarthol gyda chyfrifiadur ac aelod o’r staff i’ch arwain trwy’r broses.

Trosglwyddo Hawliau BPS 2024

Mae cyfnod trosglwyddo hawliau BPS 2024 wedi agor, gyda ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ar gyfrif RPW Ar-lein.

Taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2024

Eleni, byddwn yn talu’r taliad cyntaf, gwerth 70% o amcangyfrif o’ch hawliad BPS yn 2024, o 14 Hydref 2024, cyn belled â’ch bod yn gymwys i wneud hawliad a’n bod wedi gweld yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen. Bydd gweddill y taliad yn cael ei dalu o 12 Rhagfyr 2024.

Cynlluniau Gwledig: dyddiadau ymgeisio newydd

Mae dyddiadau pan fydd y Llywodraeth yn derbyn ceisiadau am gynlluniau gwledig bellach wedi’u cyhoeddi.

Cymorth Organig

Ar 17 Ionawr 2024, cyhoeddodd y gweinidog taliadau cymorth i ffermwyr organig sydd wedi’u hardystio’n llawn yn 2024. Bydd y canllawiau llawn i’w gweld yn llyfryn rheolau Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2024.

Dull Rheoli Maethynnau Uwch: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr

Yn helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i ddiwallu anghenion y dull rheoli maethynnau uwch.

Ceidwaid defaid a geifr : stocrestr flynyddol 2024

Mae’n ofynnol i bob ceidwad defaid a geifr gwblhau stocrestr unwaith y flwyddyn.

Ffurflen y Cais Sengl (SAF) 2024

Bydd Ffurflen y Cais Sengl (SAF) 2024 ar gael o 4 Mawrth 2024. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno eich Ffurflen y Cais Sengl fydd hanner nos ar 15 Mai 2024, neu 10 Mehefin 2024 gyda chosbau am gyflwyno’n hwyr. Ni all Ffurflen y Cais Sengl gael ei chyflwyno na’i derbyn ar ôl 10 Mehefin 2024.

A oes gennych rhif adnabod daliadau dros dro (tCPH)?

tCPH yw CPH ar gyfer tir sydd yn eich meddiant am gyfnod byr. Ni fydd y tir hwnnw’n eiddo i chi a byddwch yn ei ddefnyddio am lai na 364 diwrnod y flwyddyn. Mae’n rhaid i chi ystyried hyd eich cytundeb wrth greu tCPH.  Dim ond am y cyfnod rydych yn ei gofnodi yn eich cais y bydd eich tCPH mewn grym.

Cynlluniau Coetir – Ffenestri Ymgeisio

Bydd dull newydd yn cael ei gyflwyno i’r Grant Creu Coetir yn 2024. Bydd dim ond un ffenestr ar agor a hyn rhwng 4 Mawrth a 22 Tachwedd 2024, neu nes bod y gyllideb wedi’i dyrannu. Bydd y cynllun Grant Bach – Creu Coetir yn parhau i ddefnyddio sawl ffenestr drwy gydol y flwyddyn:

  • tair yn 2024
  • un wedi’i gynllunio yn 2025 os cytunir ar y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26

Sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer newidiadau i drwyddedau cwympo coed o dan y Ddeddf Coedwigaeth

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal sesiynau ar y newidiadau i drwyddedau cwympo coed o dan y Ddeddf Coedwigaeth a ddaw i rym ar 1 Ebrill.

Milfeddygon a ffermwyr yn cydweithio ar gynllun peilot iechyd anifeiliaid

Rydym wedi lansio prosiect peilot i asesu sut y gall mwy o gydweithio rhwng ffermwyr a milfeddygon wella iechyd anifeiliaid a chynhyrchiant fferm. Bydd yn profi’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC). Mae hon yn elfen arfaethedig allweddol o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Trawsgydymffurfio 2024

Mae’r mwyafrif helaeth o reolau Trawsgydymffurfio yn parhau i fod yn berthnasol fel yn 2023. Fodd bynnag, mae rhai taflenni ffeithiau wedi’u diweddaru ar gyfer 2024 i adlewyrchu newidiadau yn y gofynion, arfer da ac i egluro geiriad. Bu rhai newidiadau hefyd i Safonau Gwiriadwy Trawsgydymffurfio 2024 ar gyfer:

  • dosbarthu achosion o dorri amodau amaethyddol ac amgylcheddol da (GAEC)
  • Gofynion Rheoli Statudol (SMR)

Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys SMR 1 – Diogelu Dŵr, wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r gofynion sy’n berthnasol i bob tir o 1 Ionawr 2024 o dan Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau.

Trwyddedau masnach gyfochrog a hadau wedi’u trin

Bydd Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023, sy’n berthnasol i bob rhan o Brydain Fawr, yn dod i rym ar 31 Rhagfyr. Mae’n estyn dros dro neu’n ailgyflwyno dros dro ddarpariaethau trosiannol a gyflwynwyd drwy ddeddfwriaeth ymadael â’r UE mewn perthynas â thriniaethau hadau a chynhyrchion masnach gyfochrog.

Iechyd Planhigion: ffurflen gysylltu 

Cwblhewch y ffurflen gyswllt os hoffech gael eich ychwanegu at rhestr bostio iechyd planhigion. Anfonwch ffurflenni wedi’u cwblhau i plant.health@llyw.cymru. Byddwch yn derbyn diweddariadau a gwybodaeth am ymgynghoriadau, gweithdai a digwyddiadau yn y dyfodol.

Coetiroedd Bach – Yn galw ar ffermwyr yng Nghymru

Ydych chi’n ffermwr sydd â diddordeb mewn plannu coed cymunedol er mwyn lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd? Mae’r cynllun Coetiroedd Bach yn cefnogi rhai ffermydd yng Nghymru gyda grantiau o rhwng £10,000 a £40,000 i greu ardaloedd bach a dwys o goetiroedd brodorol sy’n tyfu’n gyflym ac sydd ar gael i bawb. Caiff y cynllun ei gyflenwi ar y cyd â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cylch nesaf yn agor ym mis Chwefror 2024.

Cyflwyno Profion Cyn Symud yn yr Ardal TB Isel (LTBA) ac Profion Ar ôl Symud yn yr Ardaloedd TB Canolradd (ITBAs) yng Nghymru 

Yn dilyn ymgynghoriad ar ddiwygio’r Rhaglen Dileu TB yng Nghymru a’r cynllun cyflawni a gyhoeddwyd wedi hynny ym mis Mawrth 2023, mae newidiadau’n cael eu gwneud i Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) i ganiatáu i nifer o fesurau a gefnogwyd yn ystod yr ymgynghoriad gael eu cyflwyno. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar GOV. CYMRU yn y flwyddyn newydd.

Hyder ffermwyr llaeth o Gymru i newid rheolaeth trwy fesur porfa yn lleihau ei gostau mewnbwn o £20,000

Mae mesur glaswellt a phennu cyllideb wedi rhoi’r hyder i ffermwr llaeth o Gymru newid ei bolisi gwrtaith, gan leihau costau mewnbwn £20,000 y flwyddyn.

Ffermwr da byw yn treialu pys a ffa fel dewis amgen i soia mewn dognau mamogiaid

Mae pys a ffa sy’n llawn protein yn cymryd lle dwysfwydydd yn nogn gaeaf defaid a gwartheg ar fferm yn Sir Faesyfed.

Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Llywodraeth Cymru

Mae’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm yn darparu cyngor ar bolisïau a grantiau gan gynnwys:

  • Cynllun y Taliad Sylfaenol
  • Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein
  • trawsgydymffurfio
  • iechyd a lles anifeiliaid
  • cadw cofnodion
  • Glastir
  • Rhaglen Datblygu Gwledig
  • rheolau cynlluniau

Syniadau arloesol i fynd i’r afael ag allyriadau amonia yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £1 miliwn ar gael i gefnogi prosiectau newydd a all helpu i leihau allyriadau amonia.

Diweddariad Gaeaf 2023

Mae’r Diweddariad Gaeaf bellach wedi’i gyhoeddi ar-lein. Mae’n cynnwys gwybodaeth, dyddiadau pwysig a newidiadau i reolau o amrywiaeth o feysydd allweddol sy’n ymwneud â materion gwledig.

Mae tueddiadau tymor hir TB gwartheg yn dangos gwelliant ond bod angen gweithredu mewn ardaloedd penodol

Mae TB gwartheg yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i ostwng, ond rydym am dargedu’r ardaloedd lle ceir problemau o hyd a chynnal prosiectau penodol yn Sir Benfro ac Ynys Môn.

‘Gweithio yng Nghymru’ – gweithwyr ar y tir dan y chwyddwydr yng nghynhadledd Cyswllt Ffermio

‘Rhaid hwyluso a hybu pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) nawr er mwyn moderneiddio a phroffesiynoleiddio ein diwydiannau tir a’u paratoi ar gyfer gofynion economaidd ac amgylcheddol y dyfodol!’ 

Dogn o gymysgedd cartref yn cynnig dewis rhatach na dwysfwyd ar fferm dda byw yng Nghymru

Mae dogn o gymysgedd cartref a luniwyd gyda chynhwysion o safon uchel ac sy’n cynnwys porthiant cartref wedi darparu dewis rhatach yn lle dwysfwyd a brynwyd i mewn i famogiaid cyfeb a gwartheg bîff ar fferm ucheldir ym Mhowys.

Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio newydd

Gofalu am anifeiliaid fferm a cheffylau mewn tywydd gaeafol difrifol

Gall tywydd gaeafol difrifol beri risg difrifol i dda byw. Os ydych yn cadw da byw dylech gadw golwg agos arnynt. Mae’n bwysig fod ganddynt gysgod, bwyd a dŵr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio tudalen newydd Facebook Cymru Wledig

https://www.facebook.com/cymruwledig

Trawsgydymffurfio 2024

Mae SMR 1 – Diogelu Dŵr, wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r gofynion sy’n berthnasol i bob tir o 1 Awst 2024 o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys gofynion i gydymffurfio â chyfnodau caeedig ar gyfer lledaenu tail organig gyda nitrogen sydd ar gael yn hawdd iawn (yn cynnwys slyri a tail dofednod) a sicrhau digon o le storio ar gyfer tail yn ystod y cyfnod storio. Dylai pob hawliwr fod wedi derbyn hysbysiad o’r newidiadau trwy eu cyfrif RPW Ar-lein.

Ymweld â ffermydd Cyswllt Ffermio ym Medi 2024

Ymunwch â Cyswllt Ffermio am gyfres unigryw o deithiau fferm ar draws Rhwydwaith Ein Ffermydd ym mis Medi. Mae’r teithiau hyn yn gyfle i weld y datblygiadau arloesol diweddaraf ar waith ac ymchwilio i ganlyniadau treialon ar y fferm yn uniongyrchol.

Gweithdy cyngor gan Cyswllt Ffermio yn gam cyntaf yn y broses o drawsnewid diadell fferm

Mae Prosiect Geneteg Defaid Cymru (WSGP) Cyswllt Ffermio yn helpu i hwyluso newid mawr mewn diadell ddefaid ar raddfa fawr. Bu Ystâd y Rhug ger Corwen yn rhedeg diadell agored o 3,750 o ddefaid miwl o’r math Gogledd Lloegr, ond mae bellach yn newid i ddiadell gaeedig o famogiaid Cymreig.

Taliadau Cynllyn y Taliad Sylfaenol (BPS) 2024

Eleni, bydd Llywodraeth Cymru’n talu’r taliad cyntaf, gwerth hyd at 70% o amcangyfrif o’ch hawliad BPS yn 2024, o 14 Hydref 2024, cyn belled â’ch bod yn gymwys i wneud hawliad a’n bod wedi gweld yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen. Bydd gweddill y taliad yn dechrau o 12 Rhagfyr 2024.

Cyllid Creu Coetir y Gaeaf hwn

Bydd y cyfnod nesaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer creu coetir yn cychwyn ar 24 Gorffennaf ac yn cau ar 15 Medi. Dyma fydd eich cyfle olaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer plannu y gaeaf hwn. Mae’r dyddiadau hyn yn hwyrach na’r rhai a nodwyd yn flaenorol yn sgil cynnydd yng nghyfraddau taliadau i adlewyrchu union gostau creu coetiroedd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir cysylltwch â’r Cysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Grant Creu Coetir neu’r Cynllun Plannu cysylltwch â Thîm Gwirio Cynllun Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cynlluniau Cefnogi Gwledig

Gwybodaeth am yr holl gynlluniau cymorth amaethyddol, gan gynnwys dyddiadau’r cyfnod ymgeisio, gofynion y cynlluniau a meini prawf cymhwysedd.

Datblygiadau calonogol ar gyfer y diwydiant gwlân ym Mhrydain

Mae’r bennod hon o Clust i’r Ddaear yn canolbwyntio ar y rhagolygon calonogol i ffermwyr defaid yng Nghymru sy’n chwilio am atebion i fynd i’r afael â’r prîs siomed

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi terfyn uchaf cyllideb Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2024 ac ail daliadau BPS 2023

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Ysgrifennydd Busnes datganiad ysgrifenedig ar gyllideb ariannol y BPS ar gyfer taliadau balans 2023 a BPS 2024.

Taliadau Glastir 2023 (ar RPW ar-lein)

Eleni, er mwyn gwneud y defnydd gorau o wariant yr UE erbyn 31 Rhagfyr, bydd taliadau’r hawliadau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig wedi ei paratoi, yn amodol ar gymhwystra hawlio a chael yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen.

Taliadau BPS 2023

Cyn belled â bod yr hawliadau’n cael eu dilysu, dechreuir talu gweddill BPS 2023 neu’r taliadau llawn ar gyfer y rheini na chafodd ragdaliad, o 15 Rhagfyr 2023.

Addysg gyrfaoedd, sgiliau, hyfforddiant a datblygiad ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth: galwad am dystiolaeth

Mae’r Is-Bwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ac arbenigedd gan ystod eang o randdeiliaid. Byddant yn cyfrannu at greu gweledigaeth strategol ar gyfer y sectorau amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth

Cynllun Ffermio Cynaliadwy – ymgynghoriad terfynol ar agor tan Mawrth 7, 2024.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru ym mis Ionawr a mis Chwefror. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhedeg o 14:00 i 20:00. Byddant yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau ffurfiol a stondinau gwybodaeth lle gallwch drafod yr ymgynghoriad a sut y gallwch roi camau gweithredu arfaethedig y cynllun ar waith ar eich fferm. Bydd y cyflwyniad a’r sesiynau holi ac ateb yn cael eu cynnal mewn ystafell ar wahân, ac fe’u bwriedir eu hailadrodd tua 15:00, 17:00 a 19:00. Rhestrir manylion y digwyddiadau isod:

  • 17 Ionawr 2024: Gwesty’r Celt, Caernarfon, LL55 1AY 
  • 18 Ionawr 2024: Pafiliwn, Llangollen, LL20 8SW 
  • 22 Ionawr 2024: Clwb Rygbi, Llanymddyfri, SA20 0BA
  • 24 Ionawr 2024: Marchnad da byw, Y Trallwng, SY21 8SR 
  • 30 Ionawr 2024: Gwesty’r Cliff – Gwbert, Aberteifi, SA43 1PP
  • 31 Ionawr 2024: Y Plas, Narberth, SA67 7AB 
  • 05 Chwefror 2024: Llanarth Neuadd y Pentref, Raglan, NP15 2AU 
  • 06 Chwefror 2024: Gwesty ‘Best Western Heronston’, Pen-y-Bont, CF35 5AW
  • 09 Chwefror 2024: Pafiliwn Rhyngwladol, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY
  • 14 Chwefror 2024: Y Plas, Machynlleth, SY20 8ER 

Mae modd i chi archebu eich lle ymlaen llaw fan hyn

Wrth i wythnos olaf yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau, mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Cewch o hyd i’r ymgynghoriad fan yma

Datganiad i’r Wasg: Cadw Ffermwyr i Ffermio. Gwnewch yn siŵr ein bod yn gwybod eich barn – rydyn ni’n gwrando

Mesurau o 1 Chwefror i helpu i ddileu TB mewn Gwartheg

Bydd y mesurau fel y Profion Cyn Symud, fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Chwefror yn hanfodol i’n helpu i daclo TB gwartheg yng Nghymru, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Hoffech chi fod yn aelod o’r Panel Apelio Annibynnol yn y dyfodol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cwblhau ymarfer recriwtio ar gyfer Aelodau Panel newydd yn gynnar yn 2024. Caiff Aelodau Annibynnol o’r Panel eu penodi gan Weinidog Materion Gwledig Cymru a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i ystyried apeliadau sy’n ymwneud ag ystod eang o Grantiau a Thaliadau Gwledig. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais neu os hoffech ddarganfod mwy, anfonwch e-bost i IndependentAppealsSecretariat@gov.wales

Sut i ofalu am anifeiliaid anwes a cheffylau yn ystod cyfnod tân gwyllt

Canllaw i helpu perchenogion i gadw anifeiliaid anwes a cheffylau yn ddiogel yn ystod cyfnod tân gwyllt.

Taliadau Glastir 2023

Eleni, er mwyn gwneud y defnydd gorau o wariant yr UE erbyn 31 Rhagfyr, bydd taliadau’r hawliadau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn dechrau o 1 Rhagfyr 2023 ymlaen, yn amodol ar gymhwystra hawlio a chael yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen.

Cyfle i leisio barn: Cod ymarfer ar reoli llysiau’r gingroen

Cyfle i chi leisio eich barn ar newidiadau arfaethedig i’r cod ymarfer er mwyn rhwystro a rheoli ymlediad llysiau’r gingroen.

Trwyddedau masnach gyfochrog a hadau wedi’u trin

Mae deddfwriaeth newydd wedi’i chyflwyno i ymestyn neu adfer darpariaethau trosiannol dros dro a roddwyd yn eu lle drwy ddeddfwriaeth ymadael â’r UE mewn perthynas â thriniaethau hadau a chynhyrchion masnach gyfochrog. Bydd hyn yn sicrhau mynediad parhaus i gynhyrchion diogelu planhigion pwysig sy’n cael eu mewnforio o’r UE, i reoli:

  • plâu
  • chwyn
  • chlefydau

Cyswllt Ffermio: Gweithdai am ddim i arwain ffermwyr ar welliannau i fuchesi a diadelloedd i leihau allyriadau

Bydd nod uchelgeisiol Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050 yn gofyn am rai newidiadau i arferion amaethyddol, gan gynnwys gwella iechyd, perfformiad a chynhyrchiant y fuches a diadelloedd.

Cynllun Cynefin Cymru

O ddydd Gwener 29 Medi, gellir gwneud ceisiadau ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru. Bydd y cynllun yn cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Amcanion cynllun Cynefin Cymru yw i:

  • Ddiogelu tir cynefin sydd wedi bod o dan fesurau rheoli yn 2023, tan y daw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) i rym yn llawn yn 2025.
  • Dod â thir cynefin ychwanegol, nad oes taliadau rheoli’n cael eu talu arno ar hyn o bryd, o dan fesurau rheoli cynaliadwy cyn i’r SFS ddechrau.
  • Cadw’r cymorth amgylcheddol ar gyfer tir comin.

Diweddariad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wrth i’r ymateb cydlunio gael ei gyhoeddi

Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi’r ddau adroddiad cydlunio, sy’n cynnwys barn ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru. Stori yn llawn

Datblygiadau calonogol ar gyfer y diwydiant gwlân ym Mhrydain

Mae’r bennod hon o Clust i’r Ddaear yn canolbwyntio ar y rhagolygon calonogol i ffermwyr defaid yng Nghymru sy’n chwilio am atebion i fynd i’r afael â’r prîs siomedig am wlân yn ddiweddar.

Cynlluniau Cefnogi Gwledig

Gwybodaeth am yr holl gynlluniau cymorth amaethyddol, gan gynnwys dyddiadau’r cyfnod ymgeisio, gofynion y cynlluniau a meini prawf cymhwysedd.

Bydd y cyfnod nesaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer creu coetir yn cychwyn ar 24 Gorffennaf ac yn cau ar 15 Medi. Dyma fydd eich cyfle olaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer plannu y gaeaf hwn. Mae’r dyddiadau hyn yn hwyrach na’r rhai a nodwyd yn flaenorol yn sgil cynnydd yng nghyfraddau taliadau i adlewyrchu union gostau creu coetiroedd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir cysylltwch â’r Cysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Grant Creu Coetir neu’r Cynllun Plannu cysylltwch â Thîm Gwirio Cynllun Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru.

Map Ffliw’r Adar

Os ydych yn meddwl falle bod ffliw’r adar ar eich dofednod neu adar caeth eraill, cysylltwch ar unwaith â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 03003 038 268. Geidwaid: edrychwch a ydych mewn parth atal neu reoli clefyd ar y map ffliw’r adar (gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion)

Cymru yn arwain y ffordd drwy gyflwyno gwaharddiad llwyr ar faglau a thrapiau glud

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau y bydd y gwaharddiad llwyr cyntaf yn y DU ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud yn dod i rym yng Nghymru yn ystod yr hydref.

A yw eich offer plaladdwyr wedi’u profi’n ddiweddar?

Mae’n ofyniad cyfreithiol i archwilio offer gwasgaru plaladdwyr yn rheolaidd. Rhaid profi pob offer gwasgaru (ac eithrio chwistrellwyr cefn a llaw).

Ffermwyr yn gweld gwerth mewn dysgu rhwng cyfoedion i wella iechyd traed gwartheg

Yn ôl astudiaeth bwysig newydd yng Nghymru sy’n cynnwys mwy na 5,400 o wartheg, mae ffermwyr llaeth yn ystyried dysgu rhwng cyfoedion fel un o’r llwybrau mwyaf gwerthfawr i fynd i’r afael â chloffni yn eu buchesi.

Agrisgôp yn helpu ffermwyr defaid sy’n ceisio datblygu geneteg diadell

Mae geneteg newydd i helpu i symud datblygiad defaid nad oes angen eu cneifio ymlaen yng Nghymru wedi’i chyflwyno i dair diadell yng Nghymru.

Cyswllt Ffermio yn ychwanegu modiwl bwydo defaid newydd at raglen hyfforddiant

Gall ffermwyr defaid yng Nghymru ddysgu am strategaethau maeth ar gyfer eu diadelloedd trwy gydol y flwyddyn gynhyrchu mewn gweithdy newydd wedi’i Achredu gan Lantra sydd wedi’i ychwanegu at raglen hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio.

Cyswllt Ffermio yn atgyfnerthu portffolio hyfforddiant i ffermwyr gyda 21 cwrs newydd

Mae cyfleoedd newydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru sydd am wella eu sgiliau technegol a’u gwybodaeth fusnes gyda 21 cwrs newydd bellach wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio.

Taliadau BPS 2023

Bydd taliad ymlaen llaw, gwerth 70% o werth amcangyfrifedig hawliadau BPS 2023, yn cael ei wneud o 12 Hydref 2023 ymlaen, yn amodol ar gymhwystra hawlio a chael yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen. Bydd taliadau balans yn cael eu gwneud o 15 Rhagfyr 2023 ymlaen.

Taliadau Glastir 2023

Eleni, er mwyn gwneud y defnydd gorau o wariant yr UE erbyn 31 Rhagfyr, bydd taliadau’r hawliadau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn dechrau o 1 Rhagfyr 2023 ymlaen, yn amodol ar gymhwystra hawlio a chael yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen.

Glastir a phontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd gynllun amaeth-amgylcheddol dros dro i gynnal a chynyddu arwynebedd y tir cynefin sy’n cael ei reoli ledled Cymru. Bydd y cynllun yn cynnal cefnogaeth amgylcheddol o 1 Ionawr 2024 tan ddechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025.

Cynllun Datblygu Garddwriaeth

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer y Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn agor ar 4 Medi 2023 gyda cheisiadau i’w derbyn erbyn 24 Tachwedd 2023.  Cynllun grant cyfalaf yw’r cynllun sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru.

Ymgynghoriad: Newidiadau i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979

Newidiadau i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 oherwydd diwygiadau i Ddeddf Coedwigaeth 1967.

A yw eich offer plaladdwyr wedi’u profi’n ddiweddar?

Mae’n ofyniad cyfreithiol i archwilio offer gwasgaru plaladdwyr yn rheolaidd. Rhaid profi pob offer gwasgaru (ac eithrio chwistrellwyr cefn a llaw).

Bydd cyrsiau e-ddysgu gorfodol newydd Cyswllt Ffermio yn rhoi cychwyn gwych i chi cyn hyfforddiant ymarferol

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i holl ddysgwyr Cyswllt Ffermio gwblhau cyrsiau e-ddysgu gorfodol a ariennir yn llawn cyn gwneud cais am fwy na hanner cyrsiau hyfforddi achrededig cymorthdaledig y rhaglen

Mae prosiect TB Gwartheg Sir Benfro wedi’i lansio

Mae’r contract i gyflawni prosiect newydd er mwyn mynd i’r afael â TB gwartheg gweddilliol wedi’i ddyfarnu ac mae gwaith bellach wedi dechrau. Mae’r prosiect hwn yn grymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad ym maes rheoli’r clefyd.

Coedwig Genedlaethol Cymru yn ehangu

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn cymryd cam arall ymlaen wrth i gynllun newydd gael ei lansio a fydd yn galluogi mwy o goetiroedd i fod yn rhan o’r rhwydwaith.

Cyllid Creu Coetir y Gaeaf hwn

Bydd y cyfnod nesaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer creu coetir yn cychwyn ar 24 Gorffennaf ac yn cau ar 15 Medi. Dyma fydd eich cyfle olaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer plannu y gaeaf hwn. Mae’r dyddiadau hyn yn hwyrach na’r rhai a nodwyd yn flaenorol yn sgil cynnydd yng nghyfraddau taliadau i adlewyrchu union gostau creu coetiroedd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir cysylltwch â’r Cysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Grant Creu Coetir neu’r Cynllun Plannu cysylltwch â Thîm Gwirio Cynllun Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru.

RPW Ar-lein: dyddiadau cynnal a chadw hanfodol

Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud i RPW Ar-lein ddydd Mawrth 27 Mehefin ac felly ni fydd ar gael ar y dyddiad hwn.

Cynlluniau Cefnogi Gwledig

Gwybodaeth am yr holl gynlluniau cymorth amaethyddol, gan gynnwys dyddiadau’r cyfnod ymgeisio, gofynion y cynlluniau a meini prawf cymhwysedd.

Awdurdodi brys ar gyfer Asulam (Asulox) – wedi ei wrthod Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi derbyn cyngor Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i wrthod awdurdodiad brys ar gyfer defnydd dros dro a rheoledig Asulam (Asulox) i reoli rhedyn yn 2023. Ni chaniateir defnyddio Asulam (Asulox) yng Nghymru yn 2023. Gallai hyn gael goblygiadau i unrhyw un sy’n ystyried chwistrellu rhedyn eleni, gan gynnwys rhai deiliaid contract Glastir Uwch. 

Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 – Cofrestriadau Cam 2

Cofrestriadau Cam 2 Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau a sefydliadau eraill sy’n defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion (ee chwynladdwyr) ar lefel broffesiynol, neu y mae trydydd parti yn eu defnyddio ar eu rhan, gofrestru. Mae’n rhaid i fusnesau Cymru gyflwyno eu manylion i ni er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid i ddefnyddwyr proffesiynol nad oeddent wedi cofrestru erbyn Mehefin 2022 wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Parth Atal Ffliw Adar – Diweddariad

Yn dilyn yr asesiad diweddaraf o risg dofednod ar gyfer y ffliw adar, mae mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do wedi eu codi ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y gall ceidwaid, os dewisant, ganiatáu i’w hadar fod y tu allan.

Masnachu credydau carbon: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr Gall cwmnïau preifat gysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru sydd am brynu credydau carbon ar gyfer ffermwyr i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr.

FerMôntation – SBRI HyBRID 2.0

Mae Menter Môn, wedi lansio astudiaeth ddichonoldeb mewn partneriaeth â Grŵp Ymgynghori Lafan i asesu hyfywedd technolegau eplesu manwl, a’u potensial o fewn economi Cymru. Wedi’i ariannu drwy SBRI HyBRID 2.0, FerMôntation yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru i edrych ar hydrogen i gynhyrchu protein.

EIP yng Nghymru yn dathlu llwyddiant ymchwil wedi’i arwain gan ffermwyr

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru wedi dathlu chwe blynedd o ariannu prosiectau fferm gyda chynhadledd ddiweddar ger y Drenewydd i nodi penllanw’r rhaglen.

Datblygiadau calonogol ar gyfer y diwydiant gwlân ym Mhrydain

Mae’r bennod hon o Clust i’r Ddaear yn canolbwyntio ar y rhagolygon calonogol i ffermwyr defaid yng Nghymru sy’n chwilio am atebion i fynd i’r afael â’r prîs siomedig am wlan yn ddiweddar.

Ydych chi wedi dod o hyd i fochyn daear marw?

Fel rhan o’n Raglen i Ddileu TB, dyfarnwyd contract i gasglu carcasau “moch daear marw” at ddibenion post portem. Os ydych yn gweld mochyn daear marw, nodwch leoliad y carcas a ffoniwch y llinell benodol ar gyfer moch daear marw ar 0808 169 5110.

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae’r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un: gyda diddordeb mewn datblygu gwledig cadw i fyny efo gwybodaeth ariannu yn y dyfodol

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion

Share this page