RPW Ar-lein: dyddiadau cynnal a chadw hanfodol
Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud i RPW Ar-lein ddydd Mawrth 22 Awst ac felly ni fydd ar gael ar y dyddiad hwn.
Parth Atal Ffliw Adar – Diweddariad
Cafodd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ei ddirymu ar 4 Gorffennaf 2023, ac nid yw bellach ar waith.

Cyllid Creu Coetir y Gaeaf hwn

Bydd y cyfnod nesaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer creu coetir yn cychwyn ar 24 Gorffennaf ac yn cau ar 15 Medi. Dyma fydd eich cyfle olaf i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer plannu y gaeaf hwn. Mae’r dyddiadau hyn yn hwyrach na’r rhai a nodwyd yn flaenorol yn sgil cynnydd yng nghyfraddau taliadau i adlewyrchu union gostau creu coetiroedd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir cysylltwch â’r Cysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Grant Creu Coetir neu’r Cynllun Plannu cysylltwch â Thîm Gwirio Cynllun Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cynlluniau Cefnogi Gwledig

Gwybodaeth am yr holl gynlluniau cymorth amaethyddol, gan gynnwys dyddiadau’r cyfnod ymgeisio, gofynion y cynlluniau a meini prawf cymhwysedd.
Datblygiadau calonogol ar gyfer y diwydiant gwlân ym Mhrydain

Mae’r bennod hon o Clust i’r Ddaear yn canolbwyntio ar y rhagolygon calonogol i ffermwyr defaid yng Nghymru sy’n chwilio am atebion i fynd i’r afael â’r prîs siomedig am wlân yn ddiweddar.