Gyda mwy o ofid ar hyn o bryd oherwydd COVID-19, mae’n bwysig cadw’n iach tra’n gofalu am eich lles personol a busnes eich fferm.
Mind Cefnogaeth iechyd meddwl rhad ac am ddim – Monitro Gweithredol
Rhaglen chwe wythnos o hunan help gydag arweiniad yw Monitro Gweithredol i’ch helpu chi i ddeall ac i deimlo’n fwy mewn rheolaeth o’ch emosiynau. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi’r awgrymiadau a’r offer y byddwch chi eu hangen i ddeall eich hun yn well ac yn eich cefnogi drwy’r cwrs gyda galwadau ffôn rheolaidd.
Canllaw ar ymdopi â phwysau COVID-19 (Yellow Wellies a NFU Mutual):
Ynysu Cymdeithasol
- Gall fod yn anodd cynnal cysylltiadau cymdeithasol ac aros yn brysur wrth ynysu’n gymdeithasol.
- Am ganllawiau a chefnogaeth drwy gydol y cyfnod ynysu hwn, ewch i’r dudalen unigedd ac unigrwydd ar FarmWell Wales, cliciwch yma.
Iechyd Meddwl
- Gall y coronafeirws wneud i chi deimlo’n bryderus. Mae’n bwysig gwybod ei bod yn iawn i deimlo dan straen ac yn bryderus wrth wynebu rhywbeth fel coronafeirws.
- Cofiwch y bydd hyn yn pasio. Yn y cyfamser, rydym yma i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn sy’n fwy pryderus nag arfer.
- Ewch i dudalen FarmWell Wales ar Orbryder ac Iselder am fwy o wybodaeth, cliciwch fan hyn.
Llesiant
- O ran coronafeirws a’ch llesiant, mae gan Mind dudalen ar-lein ynglŷn â coronafeirws a’ch llesiant, cliciwch fan hyn.